Cyrsia
Modiwlau’r Cwrs
Modiwl 1: Natur Eryri
Mae hwn yn ddiwrnod allan gwych wedi ei anelu at y rheiny sydd a diddordeb go iawn yn y byd o’u cwmpas. Cyfle i archwilio hanes naturiol unigryw Eryri a dysgu mwy am fflora, ffawna, ecoleg a daeareg ei mynyddoedd. Byddwch hefyd yn dysgu llawer mwy am sut mae Eryri yn cael ei diogelu i gadw ei bywyd gwyllt, cynefinoedd a thirweddau.
Modiwl 2: Gwneud y mwyaf o’r amgylchedd
Diwrnod wedi ei anelu at y rheiny sydd a diddordeb proffesiynol mewn addysg awyr agored. Bydd y diwrnod yn darparu arweinwyr a gweithgareddau sy’n ychwanegu gwerth addysgiadol at unrhyw weithgaredd awyr agored a chynorthwyo dysgu yn yr amgylchedd awyr agored. Mae’r gweithgareddau hyn wedi eu datblygu’n arbennig i annog agwedd bositif tuag at yr amgylchedd ac i annog cyfleoedd ar gyfer codi ymwybyddiaeth am y byd naturiol a hynny wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau.
Modiwl 3: Natur ein hamgylchedd ucheldirol
Bydd y diwrnod penodol hwn yn olrhain y digwyddiadau a ffurfiodd y mynyddoedd dros filiynau o flynyddoedd yn ol. Bydd yn darparu cipolwg ar yr etifeddiaeth rewlifol sydd wedi bod mor allweddol yn siapio’r mynyddoedd a’r dyffrynnoedd, a’r llystyfiant dilynol a’r priddoedd sydd wedi datblygu ers i’r rhewlif gilio.
Modiwl 4: Cadwraeth cynefinoedd a thirweddau ucheldirol
Mae’r modiwl hwn yn edrych ar y materion sy’n ymwneud a chadwraeth fodern yn y DU. Byddwch yn dysgu sut mae pobl wedi dylanwadu ar dirwedd amgylchedd y mynyddoedd a’r mesurau a gymrir i warchod ei ddaeareg, ecoleg, bywyd gwyllt a golygfeydd arbennig. Byddwch yn archwilio cynlluniau ffermio cadwraeth wedi eu hanelu at hyrwyddo bioamrywiaeth. Thema bwysig trwy gydol y dydd fydd eich rhan chi yng nghadwraeth amgylchedd ucheldirol.
Dyddiadau 2009
Modiwl 1: Natur Eryri
Ebrill 11 Mehefin 13
Modiwl 2: Gwneud y mwyaf o’r amgylchedd
Ebrill 12 Mehefin 14
Modiwl 3: Natur ein hamgylchedd ucheldirol
Medi 5
Modiwl 4: Cadwraeth cynefinoedd a thirweddau ucheldirol
Medi 6