Am Nature’s work
Mae’r rhain yn gyrsiau llawn ysbrydoliaeth ar gyfer y rheiny sydd eisiau gwybod mwy am natur ac ecoleg y llefydd maent yn ymweld a hwy yn y bryniau a’r mynyddoedd. Yn cael eu cynnal yng nghrombil Eryri, bydd pob cwrs yn agor eich llygad i bethau nad ydych efallai wedi eu gweld neu feddwl amdanynt erioed o’r blaen.
Hwylusir y cyrsiau gan Jim Langley MSc
Yn ogystal a bod yn athro brwdfrydig a naturiol, mae gan Jim MSc mewn Cadwraeth a Rheoli Tir ac mae’n Arweinydd Mynydda cymwys. Dros y blynyddoedd mae wedi datblygu toreth o brofiad yn arwain grwpiau yn yr awyr agored, nid yn unig ar gyfer addysg amgylcheddol ond hefyd ar gyfer datblygiad personol ac fel arweinydd teithiau.